Mae Canolfan ‘Lifehouse’ Northlands Byddin yr Iachawdwriaeth wedi rhoi dechrau newydd i bobl ifanc ddigartref yng Nghaerdydd. Mae’r ganolfan, sy’n fwy na hostel, yn galluogi pobl i adfer eu bywydau drwy gynnig gweithgareddau a hyfforddiant i’w helpu i wella eu hunan-barch, eu hiechyd meddwl a’u rhagolygon am waith.
Mae’r ganolfan newydd, a ddarperir gan United Welsh, yn rhoi cymorth y mae angen dybryd amdano i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed. Ei nod yw eu helpu i adsefydlu’n llwyddiannus ac mewn ffordd gynaliadwy mewn llety priodol. Mae’r adeilad newydd wedi golygu bod modd moderneiddio’r gwasanaethau a ddarperir, gan ddarparu ardal hyfforddi benodedig ar gyfer rhaglen helaeth Byddin yr Iachawdwriaeth i feithrin sgiliau a hyder ac i ennill cymwysterau gwerthfawr a phrofiad gwaith gwirfoddol.
Mae’r adeilad yn cynnwys 26 o ystafelloedd gwely (15 i bobl ifanc 18-25 oed ac 11 i bobl ifanc 16-17 oed). Mae’r 26 o ystafelloedd gwely wedi’u trefnu dros dair lefel yn glystyrau o 4-6 ystafell, gan gynnwys y rheiny â mynediad i’r anabl. Mae’r clystyrau naill ai’n rhai hunanarlwyo, gyda cheginau bach a lolfa a rennir, neu’n rhannu ystafell fyw/ystafell fwyta/cegin. Yn ogystal â grwpio pobl yn ôl oedran, diben y dull gweithredu hwn yw mynd i’r afael â dibyniaethau gwahanol pobl ifanc ac atal bwlio.. Dim ond staff a’r rhai sy’n perthyn i’r clwstwr a all gael mynediad i bob clwstwr, sy’n rhoi tawelwch meddwl i’r bobl ifanc ac yn annog cydberthnasau cefnogol rhwng cyfoedion.
Bu ffocws ar ddarparu’r cyfleusterau ar raddfa ddomestig. Mae ystafelloedd cawod en-suite ym mhob un o’r ystafelloedd gwely, ar ffurf ‘podiau’ parod, ynghyd â desgiau astudio a storfa ddillad, yn debyg iawn i nifer o ystafelloedd gwely astudio prifysgolion.
Mae’r ganolfan yn rhoi gobaith i bobl ifanc nad oes ganddynt yn aml unrhyw le arall i droi. Mae’r adeilad yn fwy na rhywle i aros. Mae’r cymorth a’r llety’n mynd law yn llaw er mwyn helpu pobl ifanc i adfer eu hyder; dysgu a datblygu sgiliau newydd a gwella eu rhagolygon am waith.