Yn 2016, pasiodd y Senedd Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i’w gwneud yn haws i landlordiaid a thenantiaid rentu cartref yng Nghymru
Mae’r gyfraith newydd hon yn berthnasol i landlordiaid cymdeithasol (fel United Welsh) a landlordiaid preifat
Y Ddeddf yw’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau ac mae wedi’i chynllunio gan Lywodraeth Cymru ers tro
Mae’r newidiadau a ddaeth yn sgil y Ddeddf wedi cael eu hystyried a’u cefnogi gan sefydliadau tenantiaid fel TPAS Cymru a Shelter Cymru.
Ei gwneud yn haws i rentu cartref yng Nghymru
Gwella cyflwr cartrefi rhent ledled Cymru
Gwella cysondeb safonau, p’un a ydych yn byw mewn cartref sy’n cael ei rentu gan landlord cymunedol neu gartref sy’n cael ei rentu gan landlord preifat
Rhoi gwell sicrwydd i bobl sy’n byw mewn cartrefi rhent a landlordiaid.
• Bydd y Ddeddf yn weithredol o 1 Rhagfyr 2022 ymlaen.
Darllenwch eich contract newydd ac ymgyfarwyddwch ag ef. Bydd eich contract yn egluro beth allwch chi ei wneud a beth na allwch ei wneud, a beth all ac na all United Welsh ei wneud fel landlord.
Os ydych eisoes yn byw mewn cartref a ddarperir gan United Welsh, byddwch yn derbyn eich Contract Meddiannaeth o fewn chwe mis i 1 Rhagfyr 2022. Mae’r contract hwn yn disodli eich Cytundeb Tenantiaeth
Ar gyfer pobl sy’n symud i gartref United Welsh ar ôl 1 Rhagfyr 2022, byddwch yn llofnodi’ch contract newydd ac yn derbyn copi o fewn 14 diwrnod.
Bydd “Tenantiaid” yn cael eu hadnabod fel “Deiliaid Contract”
Bydd “Cytundebau Tenantiaeth” yn dod yn “Gontractau Meddiannaeth”
Bydd gennych fwy o hawliau olyniaeth. Mae hyn yn golygu, mewn rhai amgylchiadau, y gallwch drosglwyddo eich cartref neu gontract i bobl eraill ar ôl eich marwolaeth. Er enghraifft, gallwch ofyn i’ch cartref gael ei drosglwyddo i’ch partner.
Gallwch ofyn i ni ychwanegu rhywun at eich contract yr ydych am fyw gydag ef/hi fel cyd-ddeiliad contract. Nid oes rhaid i chi ddechrau contract newydd i ofyn am hyn.
Ymdriniaeth gyson at ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Na, byddwch yn talu eich rhent yn y ffordd arferol.