Mae diogelwch tân yn dra phwysig i ni yn United Welsh.
Er mwyn eich cadw’n ddiogel os bydd tân, mae’n bwysig gwybod y camau sylfaenol y mae angen i chi eu cymryd i wneud eich cartref yn fwy diogel ac i atal tân:
- Cynlluniwch sut byddech chi’n dianc pe bai tân. Os ydych chi’n byw mewn tŷ, gwnewch gynllun dianc a’i rannu gyda’r teulu. Os ydych yn byw mewn bloc o fflatiau neu os oes gennych ardal gymunedol, dewch i wybod cynllun gwacáu eich adeilad
- Profwch eich larwm mwg yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn gweithio a gwnewch yn siŵr bod pob aelod o’ch teulu yn gyfarwydd â’r sain
- Peidiwch â gadael bwyd pan rydych yn coginio
- Sicrhewch nad yw canhwyllau ymlaen nac yn agos at unrhyw beth a allai fynd ar dân
- Sicrhewch nad yw gwresogyddion wedi’u gorchuddio
- Defnyddiwch uchafswm o un plwg ym mhob soced a pheidiwch byth â’u defnyddio os ydynt yn wlyb
- Caewch bob drws, diffoddwch a thynnwch y plwg o’ch offer fel setiau teledu bob nos. Cadwch eich ffôn ac unrhyw gymhorthion symudedd gerllaw os oes eu hangen arnoch
- Diffoddwch a gwaredwch sigaréts yn iawn a pheidiwch byth ag ysmygu yn y gwely
- Cadwch fatsis a thanwyr oddi wrth blant.
Os oes gennych unrhyw bryderon am ddiogelwch tân yn eich ardal chi, neu gwestiynau am beth i’w wneud os bydd tân, cysylltwch â ni. Bydd ein tîm Cymdogaeth yn hapus i helpu.