Mae Celtic Offsite yn fenter gymdeithasol newydd sy’n gweithgynhyrchu cartrefi carbon isel ac yn cefnogi’r economi leol i ffynnu.
Mae ffatri Celtic Offsite yng Nghaerffili yn:
- Cynhyrchu strwythurau ffrâm bren cynaliadwy o ansawdd uchel ynghyd ag inswleiddiad wedi’i osod yn y ffatri a ffenestri i adeiladu hyd at 250 o gartrefi carbon isel y flwyddyn
- Defnyddio dros 28,000 troedfedd sgwâr o gyfleusterau gweithgynhyrchu i ddarparu tai fforddiadwy i gontractwyr a datblygwyr
- Defnyddio cadwyn gyflenwi Gymreig, gan gynnwys partneriaid lleol a phren Cymreig lle bo modd
- Yn cynnwys swît hyfforddi ar y safle i ddarparu datblygiad sgiliau a phrentisiaethau ar gyfer swyddi adeiladu gwyrdd
Mae’r ffatri wedi derbyn dau ardystiad mawreddog y Sefydliad Safoni Rhyngwladol (ISO); ISO 9001 ar gyfer rheoli ansawdd ac ISO 14001 ar gyfer rheolaeth amgylcheddol. Mae Celtic Offsite hefyd wedi ennill ardystiad PEFC ar gyfer y gadwyn cadw cynhyrchion sy’n seiliedig ar goedwig a dyfarnwyd Aur iddo gan y Gymdeithas Pren Strwythurol yn eu harchwiliad diweddaraf.