Y Ddeddf Rhentu Cartrefi yw’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau. Bydd yn gwella sut rydym yn rhentu, yn rheoli ac yn byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru.
Fel rhan o’r ddeddfwriaeth newydd, mae cytundebau tenantiaeth yn cael eu disodli gan gontractau meddiannaeth. Mae’r contractau hyn yn amlinellu hawliau a chyfrifoldebau pobl sy’n rhentu cartref gyda ni, a rhaid i ddeiliaid contract ac United Welsh ill dau ddilyn telerau’r contract.
Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth gyffredinol i’ch helpu i ddeall telerau contract meddiannaeth ar gyfer rhentu gyda ni.
Mae gwahanol fathau o gytundebau yn dibynnu ar ba fath o gartref yr ydych yn byw ynddo a phryd y gwnaethoch ymuno ag United Welsh, felly os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol, cysylltwch â ni.