Roedd hen Glinig Iechyd Brynmawr ar Stryd Bailey Isaf wedi bod yn wag ers nifer o flynyddoedd.
Diolch i Gronfa Datblygu Tir ac Adeiladau Llywodraeth Cymru (y Gronfa Rhyddhau Tir gynt), cafodd yr adeilad ei ddymchwel ym mis Mehefin 2020 i wneud lle ar gyfer datblygiad bach o lety â chymorth, sy’n cael ei ddarparu mewn partneriaeth ag United Welsh, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Awdurdod Lleol Blaenau Gwent a Chronfa Gofal Integredig Llywodraeth Cymru.
Bydd y datblygiad yn darparu pum uned byw â chymorth gyda mannau byw cymunedol ar gyfer pobl ag anghenion cymorth dysgu, gan helpu preswylwyr i fyw’n annibynnol yn y gymuned a darparu mynediad at gyfleusterau dysgu, llesiant a chymorth ychwanegol os oes angen.
Mae’r cartrefi yn cael eu hadeiladu yn ein ffatri cartrefi ffrâm bren gan ein menter gymdeithasol newydd Celtic Offsite.
Dywedodd Richard Mann, Prif Weithredwr Grŵp United Welsh:
“Mae pandemig Covid-19 wir wedi pwysleisio pwysigrwydd ein cartrefi fel sylfaen ar gyfer bywyd diogel, hapus.
“Mae datblygu mwy o gartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel ar gyfer y bobl sydd eu hangen fwyaf yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i United Welsh, ac rydym wrth ein bodd bod y cymorth gan Gronfa Rhyddhau Tir Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Gofal Integredig wedi’i gwneud yn bosibl i ni ddod â mwy o gartrefi i Frynmawr gyda’n partneriaid.
“Bydd y cartrefi newydd yn newid bywydau trigolion ac edrychwn ymlaen at barhau â’n gwaith gyda Llywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Chyngor Blaenau Gwent wrth i’r datblygiad fynd rhagddo.”