Er mwyn cadw’ch cartref yn ddiogel, bydd United Welsh yn cynnal archwiliadau yn eich cartref i sicrhau bod eich larymau a’ch systemau’n gweithio’n gywir.
Bydd yr archwiliadau hyn yn cael eu cynnal gan ein gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw Celtic Horizons, a byddant yn cynnwys:
- Gwiriad diogelwch nwy blynyddol i sicrhau bod eich system wresogi yn ddiogel ac yn gweithio
- Archwiliad blynyddol o larymau mwg a larymau carbon monocsid
- Archwiliad diogelwch trydanol o leiaf unwaith bob pum mlynedd
Byddwn yn rhoi tystysgrif diogelwch nwy i chi os oes gan eich cartref foeler nwy, a chopi o’r adroddiad archwilio trydanol.