Wedi’u hariannu gan Raglen Ariannu Digartrefedd Llywodraeth Cymru, bydd y fflatiau hunangynhwysol un ystafell wely hyn yn darparu llety ychwanegol i bobl ifanc sy’n wynebu digartrefedd yng Nghaerffili.
Wedi’u lleoli ym Maes y Dderwen, cynllun tai â chymorth sy’n eiddo i United Welsh ac a reolir gan Grŵp Pobl, mae’r fflatiau ‘House4One’ yn cael eu cynhyrchu oddi ar y safle gan Beattie Passive gan ddefnyddio dulliau adeiladu modern, sy’n golygu eu bod yn ynni effeithlon ac yn fwy caredig i’r amgylchedd.
Bydd y fflatiau yn darparu llety symud ymlaen i drigolion presennol cynllun Maes y Dderwen, gan eu cynorthwyo i fyw’n annibynnol a rhyddhau ystafelloedd i bobl ifanc eraill sy’n wynebu digartrefedd.