Os oes gennych gartref gwag sy’n barod i’w osod, rydym yn cynnig gwasanaeth rheoli tenantiaeth cynhwysfawr ar gyfer tâl rheoli y cytunwyd arno (dim mwy na 10%).
Nid oes unrhyw ffioedd asiantaeth na llofnodi, a dim trafferth i chi.
Bydd incwm rhent eich eiddo yn dibynnu ar y lleoliad a nifer yr ystafelloedd gwely.
Os yw’r holl waith eisoes wedi’i gwblhau a bod yr eiddo’n barod i’w osod, gallwn ddileu’r trafferthion sy’n dod gyda bod yn landlord a chynnig pecyn rheoli tenantiaeth llawn i chi.
Mae’n syml. Dim gwariant cychwynnol. Dim ffioedd ymlaen llaw. Dim materion rheoli tenantiaeth. Byddwch yn cael tawelwch meddwl llwyr gan gymdeithas dai blaenllaw ag enw da.
Pecyn Rheoli Tenantiaeth
Unwaith y bydd eich eiddo yn barod i gael ei osod, byddwn yn rheoli’r broses gyfan gan gynnwys:
- Marchnata’r eiddo
- Dangos yr eiddo i ddarpar denantiaid
- Gwiriadau cyfeirio tenantiaeth
- Ymweliad Cynghorydd Ariannol i wirio bod y darpar denant yn gallu fforddio’r rhent cyn cael cynnig y llety.
Unwaith y dyrennir tenant byddwn yn:
- Cymeryd rhestr eiddo a thynnu lluniau o’r eiddo cyn ei osod
- Cofrestri’r tenant i denantiaeth byrddaliadol sicr
- Trefnu ymweliad croesawu o fewn chwe wythnos i sicrhau bod tenantiaid wedi symud i mewn heb unrhyw broblem
- Sicrhau bod cwmnïau cyfleustodau a’r cyngor yn cael gwybod am fanylion meddianwyr newydd a darlleniadau mesuryddion.
Yn ystod y denantiaeth byddwn yn:
- Casglu’r rhent sy’n cynnig sawl ffordd i denantiaid dalu, gan gynnwys debyd uniongyrchol, archeb sefydlog, cardiau talu, taliadau cardiau debyd neu gredyd. Os derbynnir budd-dal tai gallwn hefyd drefnu i hyn gael ei dalu’n uniongyrchol i ni
- Cymhwyso ein proses ôl-ddyledion rhent os na thelir rhent
- Gweini unrhyw hysbysiadau cyfreithiol a mynychu’r llys lle bo angen
- Archwilio’r eiddo bob chwe mis
- Delio â phob mater tenantiaeth gan gynnwys unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cynnal a chadw yn ystod tymor y brydles:
- Bydd yr holl atgyweiriadau o ddydd i ddydd yn cael eu gwneud gan gontractwr cymeradwy ac ychwanegir y costau at gyfrif perchennog y tŷ
- Os bydd angen atgyweiriadau mawr i’r eiddo yn ystod tymor y brydles, bydd y Swyddog Tai Prydles yn cysylltu â pherchennog y cartref i drafod cyn i’r gwaith gael ei wneud
- Bydd gan denantiaid fynediad at wasanaeth galw allan brys cynnal a chadw eiddo 24 awr
- Mae gwasanaethu nwy blynyddol yn cael ei drefnu a’i wneud trwy Cartrefi Gwag Cymru
- Bydd hyd y brydles yn cael ei bennu gan y costau gwaith.
Sut i wneud cais
Yn y lle cyntaf, cwblhewch y ffurflen ymholiadau ar ein tudalen Help gyda chartrefi gwag.
I gwblhau eich cais llawn, bydd angen i chi ddarparu:
- ID sy’n dangos eich llun h.y. pasbort, cerdyn trwydded yrru
- Copïau swyddfa’r Gofrestrfa Tir
- Cynllun llawr ar gyfer yr eiddo
- Llythyr oddi wrth y benthyciwr morgeisi, os yw’n berthnasol, yn rhoi eu cytundeb i gofrestru’r brydles
- Copi o’ch dogfen Polisi Yswiriant Adeiladau a ddylai gyfeirio at United Welsh fel parti â diddordeb a’i fod ar sail prynu-i-osod
- Manylion darparwyr cwmni cyfleustodau
- EPC (Tystysgrif Perfformiad Ynni), tystysgrif drydanol, tystysgrif nwy CP12