Llys Nant y Mynydd, Ffordd yr Ysbyty, Nant-y-glo, Glynebwy, Gwent, NP23 4LY
Mae Llys Nant y Mynydd yn Gynllun Tai Gofal Ychwanegol o ansawdd uchel yng nghymuned Nant-y-glo, Blaenau Gwent, sy’n agos at amrywiaeth o atyniadau o’r radd flaenaf i ymwelwyr a Pharc Cenedlaethol prydferth Bannau Brycheiniog. Mae’r cynllun yn cynnig cyfleusterau cymunedol gwych, gan gynnwys bwyty, dwy lolfa, campfa, golchdy, ystafell wely i westeion, ystafell TG, yn ogystal â gerddi preifat hardd sy’n cael eu cynnal a’u cadw. Mae’r cyfleusterau hyn yn cynnig cyfleoedd gwych i denantiaid gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau llesiant a chymdeithasol os byddant yn dymuno gwneud hynny.
Prif nodweddion:
- 44 o fflatiau un neu ddwy ystafell wely dros bedwar llawr
- Un aelod o staff gofal yn y cartref ar y safle, staff rheoli amhreswyl a gwasanaeth larwm cymunedol
- Safle cwbl hygyrch sy’n agos at y siopau lleol, swyddfa’r post a thafarn
- Gweithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol amrywiol
- Cymhwysedd: Gall pobl dros 50 oed wneud cais. Ein nod yw creu cymuned gytbwys o bobl sydd â lefelau amrywiol o anghenion gofal a chymorth, sy’n eu galluogi i wneud pethau. Bydd tenantiaid iau ag anabledd corfforol hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer nifer fach o fflatiau byw’n annibynnol fel rhan o’r cynllun
- Rhent a thâl gwasanaeth – rhwng £273 a £347* yr wythnos, yn dibynnu ar ddeiliadaeth sengl neu ddwbl (yn cynnwys costau prydau, tanwydd a dŵr) *lefel 2015-16.