Mae’n bosibl y bydd dioddefwyr cam-drin domestig yn dangos yr arwyddion canlynol:
- Anafiadau corfforol
- Esgusodion dros anafiadau rheolaidd
- Straen, pryder neu iselder
- Diffyg hunan-barch
- Hunanfeio
- Absenoldeb o’r gwaith ac achlysuron cymdeithasol
- Newidiadau o ran eu personoliaeth – bod yn nerfus neu ar bigau’r drain
- Diffyg cyfathrebu annibynnol
- Yn yfed mwy o alcohol neu’n cymryd mwy o gyffuriau
- Prinder arian
- Difrod i eiddo.
Mae pob achos o gam-drin domestig yn wahanol, ond gall arwyddion sy’n awgrymu bod rhywun yn eich cam-drin gynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:
- Eich bwlio
- Rheoli eich ymddygiad
- Cael eich gorfodi i gyflawni gweithred rywiol
- Eich bychanu
- Bloeddio a gweiddi arnoch yn gyson
- Bygwth neu ddefnyddio trais
- Dinistrio eitemau personol
- Cyfyngu eich cyswllt ag aelodau o’r teulu, ffrindiau a chydweithwyr
- Cadw golwg ar ble rydych
- Eich cyhuddo chi, y dioddefwr, o gam-drin, yn hytrach na’r gwrthwyneb.