Os ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth a’ch bod yn poeni am wneud pethau’n well, byddem wrth ein bodd pe baech yn gweithio gydag United Welsh.
Rydym yn adeiladu cartrefi, yn creu cymunedau ac yn trawsnewid bywydau, ac rydym eisiau i’n pobl fwynhau eu rôl wrth wneud i hynny ddigwydd.
Credwn fod amrywiaeth o brofiadau, safbwyntiau a chefndiroedd yn gwneud United Welsh yn lle gwell i weithio ac yn creu canlyniadau gwell i’n cymunedau. Nid ydym yn gweld gwaith fel rhywbeth yr ydych yn ei wneud yn unig; mae’n rhywle y gallwch berthyn, bod yn chi eich hunan a chyrraedd eich potensial.