Mae Tŷ Parc yn darparu 22 o fflatiau hunangynhwysol i bobl sengl a theuluoedd sy’n wynebu digartrefedd.
Caiff ei reoli gan Gofal Gwalia. Mae pob adain o’r adeilad yn cynnwys ardal lolfa gymunedol, ardal fwyta, cegin ac ystafell amlbwrpas, ac yn darparu ar gyfer mathau gwahanol o bobl – mae’r adain chwith i unigolion a’r adain dde i deuluoedd. Ceir mynedfa annibynnol i’r ddwy adain drwy erddi wedi’u tirlunio er mwyn cynnal diogelwch a phreifatrwydd y tenantiaid.
Mae’r adeilad yn manteisio ar dechnolegau newydd, gan gynnwys system wresogi o dan y llawr a phaneli solar ffotofoltäig. Mae’r adeilad uwch-dechnoleg wedi’i ddylunio a’i adeiladu i fod yn gyfforddus, yn effeithlon ac yn gwbl ddiogel. Dyma un o’r hostelau cyntaf o’i fath i bobl ddigartref, ac mae ei ddyluniad unigryw yn golygu bod y staff yn gallu newid maint yr ystafelloedd ar gyfer grwpiau teuluol o faint gwahanol.