Rydym yn chwilio am Ymchwilydd i ymuno â’n tîm yn Tai Ffres. Mae Tai Ffres yn wasanaeth tai a chymorth newydd a grëwyd gyda phobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc.
Mae Tai Ffres yn cael ei ddatblygu a’i ddarparu gan United Welsh a Llamau gyda chyllid Llywodraeth Cymru. Rydym yn cymryd agwedd newydd at roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc ac yn cynnwys pobl ifanc ym mhopeth a wnawn.
Bydd y rôl hon yn cynnwys cyd-ddylunio a chynnal ymchwil yn ymwneud â phobl ifanc sy’n cael mynediad i gartrefi Tai Ffres ac yn byw ynddynt. Byddwch hefyd yn cynrychioli Tai Ffres mewn digwyddiadau a chyfarfodydd allanol, gan gyflwyno a mynychu i gael y wybodaeth ddiweddaraf am faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc, tai a digartrefedd.
Os oes gennych brofiad o gynnal ymchwil gyda grwpiau agored i niwed, dealltwriaeth dda o ofynion ymchwil a gwerthuso o ansawdd uchel a phrofiad o gyfleu canfyddiadau ymchwil i wahanol gynulleidfaoedd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.