Mae United Welsh Housing Association Ltd (United Welsh) wedi ymrwymo i breifatrwydd ein tenantiaid, ein cwsmeriaid a’n gweithwyr.
Mae hyn yn golygu ein bod ni:
- yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol ar ddiogelu data a phreifatrwydd.
- yn ei gwneud hi’n hawdd i unrhyw un gysylltu â ni i drafod ein dull o breifatrwydd a diogelu data, ac
- yn agored ac yn dryloyw ynghylch ein dull o ddiogelu data.
Mae’r brif ddeddfwriaeth diogelu data, y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, Mai 2018 yn nodi’r egwyddorion y mae’n ofynnol i ni eu dilyn wrth drin data personol. Yr egwyddorion hynny yw bod yn rhaid i ddata personol fod:
- wedi’i brosesu’n gyfreithlon, yn deg ac mewn modd tryloyw
- wedi’i gasglu at ddibenion penodol, eglur a chyfreithlon
- digonol, perthnasol a chyfyngedig i’r hyn sy’n angenrheidiol
- yn gywir ac yn gyfredol
- eu cadw ar ffurf sy’n caniatáu adnabod gwrthrych data am ddim hwy nag sy’n angenrheidiol
- ei brosesu mewn modd sy’n sicrhau diogelwch priodol, gan gynnwys amddiffyniad rhag prosesu anawdurdodedig neu anghyfreithlon, colled ddamweiniol, dinistrio neu ddifrod.
Gellir gweld ein gwahanol hysbysiadau preifatrwydd yma.
Dylai unrhyw un sy’n dymuno siarad â ni am ein dull o breifatrwydd a diogelu data gysylltu â:
Nia Roblin, Pennaeth Llywodraethu a Chydymffurfiaeth sy’n gweithredu fel ein Swyddog Diogelu Data, neu’r Tîm Llywodraethu ar 02920 858 100 neu e-bost: tellmemore@unitedwelsh.com